Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 24 Medi 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:40 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafodd Steve George ei groesawu fel Clerc newydd y Pwyllgor a Kath Thomas fel aelod ychwanegol o'r tîm Clercio. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Deisebau newydd
2.1P-04-496 Ysgolion pob oed
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.2P-04-497 Cynllun Tai Cenedlaethol i Raddedigion
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
2.3P-04-498 Addysgu Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.4P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.5P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn ar y ddeiseb;
· gofyn am eglurhad pellach gan y deisebydd ar nodau'r ddeiseb; a
· dosbarthu nodyn ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod Pwyllgor.
2.6P-04-501 Gwneud canolfannau dydd ar gyfer pobl hŷn yn ofyniad statudol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.7P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
2.8P-04-503 Adfywio Tonpentre a Phentre
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i nodi ymateb y Gweinidog a gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor gydag amserlen ar gyfer ei ystyried ac unrhyw ddatblygiadau eraill ar y materion a godwyd yn sylwadau'r deisebydd.
3.2P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at SWWITCH, gan anfon copi at Gyngor Sir Penfro i mewn yn gofyn iddo:
3.3P-04-406 Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol
3.4P-04-411 Deiseb yn Erbyn Parthau Cadwraeth Morol yn Sir Benfro
3.5
3.6P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
3.7
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau P-04-406 a P-04-411 yn sgîl datganiad diweddar y Gweinidog; ond i gadw P-04-415 ar agor hyd nes bod yr Aelodau wedi cael cyfle i drafod yr ohebiaeth ddiweddar a ddarparwyd gan y deisebydd.
3.8P-04-426 Cyflwyno terfyn cyflymder gorfodol o 40mya ar ffordd yr A487 ym Mlaen-porth, Ceredigion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgîl ymateb cadarnhaol y Gweinidog i weithredu terfyn cyflymder o 40mya.
3.9P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y Gweinidog wedi cytuno i gynnwys y deisebydd mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol.
3.10 P-04-486 Gweithredu nawr er mwyn achub siopau y Stryd Fawr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.11 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd; a
· dosbarthu nodyn ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y cyfarfod Pwyllgor.
3.12 P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i'r Offeryn Statudol weithredu rheoliadau newydd y Gymuned Ewropeaidd a dychwelyd at y mater unwaith y bydd wedi'i gyflwyno.
3.13 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog.
3.14 P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.15 P-04-465 Achub llaeth Cymru, a seilwaith a swyddi’r diwydiant
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cwmni yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
3.16 P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
3.17
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y materion o dan sylw bellach, yn y bôn, yn fater gweithredol i'r cyngor lleol.
3.18 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i weld yr achos busnes ar y weledigaeth y mae'r Bwrdd Iechyd yn ei ffafrio, y mae'r Prif Weithredwr wedi cytuno i'w roi i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.
3.19 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.20 P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i roi cyfle arall i weld a yw'r deisebydd yn fodlon ag ymateb y Gweinidog.
3.21 P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor ynghyd â'r deisebwyr ar gyfer P-04-476 yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd.
3.22 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Man Anafiadau Ysbyty Tywyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i wahodd y deisebwyr i siarad gyda'r Pwyllgor ynghyd â'r deisebwyr ar gyfer P-04-466 yn ei gyfarfod arfaethedig yng ngogledd Cymru ym mis Tachwedd.
3.23 P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa, chwe mis ar ôl cyflwyno'r cynllun gweithredu.
3.24 P-04-419 Moratoriwm ar Ddatblygu Ffermydd Gwynt
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.25 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael barn y deisebydd ar y sefyllfa ddiweddaraf fel yr amlinellwyd gan y Cyngor.
3.26 P-04-493 Moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol mewn Rhanbarthau Dinesig posibl
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r dull y mae'r deisebydd wedi'i awgrymu.
3.27 P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r pwyntiau eraill a godwyd gan y deisebydd.
3.28 P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i gael barn y deisebydd a Colegau Cymru.
3.29 P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros hyd nes y bydd yr adolygiad o addysgu Cymraeg fel ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 wedi'i gyhoeddi.
3.30 P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymatebion gan Ymddiriedolaeth Castell Penfro a Chyngor Tref Penfro.
3.31 P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· aros i gael barn y deisebwyr ar yr ohebiaeth gan y Gweinidog ac Amgueddfa Cymru; a
· gofyn i Amgueddfa Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf.
3.32 P-04-397 Cyflog Byw
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am gyflog byw, y gofynnwyd amdani, gan Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar gyflog byw.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5 P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute: Adroddiad drafft
Cytunwyd ar yr adroddiad drafft.